Doc Fictoria Victoria Dock Caernarfon
Croeso i ddatganiad hygyrchedd Doc Fictoria. Mae'r dudalen hon yn ymdrin â'r mesurau cydymffurfiaeth o ran mynediad a safonau a gymerwyd gan Ddoc Fictoria, yn ogystal â chanllawiau i esbonio sut i gymryd mantais o'r nodweddion hyn. Fe wnaed pob ymdrech resymol i wneud cynnwys y wefan hon mor hygyrch ag y bo modd i bobl anabl.
Pam bod angen i'n safle fod mor hygyrch?
Mae i wefan hygyrch lu o fanteision. Gall defnyddwyr dall ddefnyddio darllenydd sgrin sy'n defnyddio synthesis llais i ddarllen cynnwys gwefan yn uchel; mae dylunio XHTML dilys a semantig yn golygu y bydd hyn yn gweithio yn y modd y bwriada'r meddalwedd iddo wneud. Gall ymwelwyr rhannol ddall chwyddo maint y testun ar y wefan, a bydd angen dylunio CSS dilys i alluogi i hyn ddigwydd. Rhoddir ystyriaeth hefyd i ymwelwyr byddar, ynghyd â rhai heb fynediad â llygoden, defnyddwyr sy'n lliwddall, neu rai sy'n dioddef o Epilepsi.
Symud o amgylch y Wefan
Mae'n bosibl y bydd pobl ag anawsterau symudedd yn cael trafferth wrth geisio rheoli llygoden i glicio ar gysylltiadau. Cyflwynodd y W3C briodoledd accesskey i alluogi defnyddwyr i ddod o hyd i'r allwedd briodol ar eu bysellfwrdd a gwe-lywio i gysylltiad penodol. Byddai defnyddwyr holliach hefyd yn eu cael yn ddefnyddiol fel llwybrau byr.
Accesskeys a ddefnyddir yn y safle hon:
Caiff y nodwedd accesskey ei chefnogi ar hyn o bryd gan y gweborwyr canlynol: Internet Explorer 4+ (Windows) & 5+ (Mac), Mozilla (Windows + Linux), Netscape 6+ (Windows) ac Opera 7 (Windows + Linux).
Gall defnyddwyr Windows we-lywio gyda'r nodwedd accesskey trwy deipio 'ALT'+'Accesskey', a gall defnyddwyr Mac ddefnyddio 'CTRL'+'Accesskey'.
Safonau a Chanllawiau'r We
Adeiladwyd y safle hon trwy ddefnyddio cod sy'n cydymffurfio â safonau W3C ar gyfer XHTML a CSS. Mae'r safle'n arddangos yn gywir mewn porwyr cyfredol, ac mae defnyddio cod sy'n cydymffurfio â safonau XHTML/CSS yn golygu y bydd unrhyw borwyr yn y dyfodol hefyd yn ei harddangos yn gywir.
Mae'r safle'n defnyddio iaith arwyddnodi sy'n semantig gywir (y tag cywir ar gyfer y pwrpas cywir), gellir chwyddo maint y testun trwy eich porwr, a lle bynnag y defnyddir Flash a Javascript cymerwyd camau i sicrhau y gall defnyddwyr heb Flash 7, neu â Javascript wedi'i analluogi, barhau i allu defnyddio'r safle i'w llawn botensial.
Mae'r cysylltiadau o fewn y wefan hon yn defnyddio priodoleddau teitl disgrifiadol sy'n darparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch natur y cysylltiad. Darperir cysylltiadau hefyd yn y fath fodd fel eu bod yn gwneud synnwyr allan o gyd-destun. Mae pob delwedd cynnwys a ddefnyddir yn y safle hon yn cynnwys priodoleddau disgrifiadol 'ALT' .
Ac yn olaf, mae'r wefan hon yn defnyddio meintiau ffont cymharol, sy'n golygu y gall porwyr newid maint y ffont yn hawdd os ceir anhawster wrth ddarllen y teip. Gellir newid maint y ffont trwy ddefnyddio'r dewis addas ar y ddewislen fel a ganlyn:
Fel arall, sgroliwch gydag olwyn eich llygoden gan ddal yr allwedd control i lawr.
Eithriadau
Tra bod Doc Fictoria yn ymdrechu i lynu at y canllawiau a'r safonau derbyniol o ran mynediad a rhwyddineb i'r defnyddiwr, nid yw bob amser yn bosibl gwneud hyn ym mhob rhan o'r wefan. Os byddwch yn dod ar draws rhyw broblem benodol, cysylltwch â ni.