Doc Fictoria Victoria Dock Caernarfon

Mae Doc Fictoria mewn man gogoneddus ger y doc hanesyddol, ac o fewn tafliad carreg i hen dref gaerog Caernarfon - gyda'r castell godidog a'r holl atyniadau eraill sydd yn ei gwneud yn un o'r enwocaf o Ganolfannau Treftadaeth y Byd.
Mae yno gartrefi newydd moethus ynghyd â barrau a bistros prysur, caffis a bwytai ffasiynol, canolfan gelfyddydau arobryn, amgueddfa môr a phob math o siopau. Mae'r môr ar un ochr i'r dref a holl harddwch Eryri yn gefndir cyfareddol ar yr ochr arall, ac mae digon o barciau a chyfleusterau amrywiol yn lleol ar gyfer chwaraeon a diwylliant - ynghyd â dewis helaeth o ysgolion, colegau, meddygon a holl hanfodion eraill bywyd. Mae ffyrdd a gwasanaeth bysiau da yn lleol, a gorsaf drenau gerllaw ym Mangor gyda chysylltiadau cyflym i Ynys Môn, gweddill Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

(Y FANER LAS)
Mae Doc Fictoria ar farina sydd wedi ennill y Faner Las ac yn agos at draeth Dinas Dinlle sydd hefyd wedi ennill y Faner Las. Yno mae Bae Caernarfon yn agor allan o'ch blaen gydag arfordir gogleddol Penrhyn Llyn ar y chwith a gorllewin Ynys Môn a Mynydd Caergybi ar y dde.
Mae'r Faner Las yn cael ei dyfarnu am ddatblygiad cynaliadwy mewn traethau a marinas a gosodir meini prawf llym ynglyn ag ansawdd y dwr, addysg a gwybodaeth amgylcheddol, diogelwch a gwasanaethau eraill.
Mwy o wybodaeth: